Fydd y system DGCh gyfredol sy'n cael ei defnyddio er mwyn rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, sef System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS), ddim yn ddiogel i'w defnyddio ar ôl mis Ionawr 2026. Mae'r system Microsoft sy'n cael ei defnyddio i'w chynnal yn cael ei datgomisiynu gan olygu bod angen i bob awdurdod lleol symud at system newydd. Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru sy'n defnyddio WCCIS yn wynebu hyn hefyd.
Mae dod i gasgliad am sut fyddwn ni'n cyflwyno system newydd yn gymhleth! Byddwn ni'n cael ein harwain gan Lywodraeth Cymru gan ddibynnu ar fewnbwn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a rhaid i'r system gydymffurfio ag amrywiaeth o ddeddfwriaethau a rheoliadau y mae'n rhaid i Awdurdod Lleol eu dilyn yng Nghymru. Enw'r rhaglen sy'n rheoli pob dim yw ‘Connecting Care’.
Bydd ‘Connecting Care’ yn cynnwys sawl haen er mwyn darparu arweiniad a chymorth Cenedlaethol / Rhanbarthol / Lleol.
Beth nesaf i chi?
Daliwch ati yn unol â'r drefn arferol!
Mae gwaith datblygu pellach yn cael ei gynnal yn y cefndir:
- Mae staff gofal cymdeithasol wedi derbyn y cyfle i fynychu sesiynau arddangos gan gyflenwyr posibl ac wedi gofyn iddyn nhw am eu hadborth a fydd yn cyfrannu at benderfyniadau yn y dyfodol.
- Mae arbenigwyr allweddol wedi cael eu henwebu gan bob awdurdod lleol i'w cynrychioli nhw yn ôl yr angen. Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, bydd gofyn i staff gymryd rhan mewn fforymau, adolygiadau prosesau ar gyfer eich gwasanaeth, ac efallai hyd yn oed cymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer y system newydd yn eich ardal!
- Am ei bod ni'n gwybod bod WCCIS yn dod i ben, bydden ni'n argymell bod datblygiadau pellach i'r system yn cael eu cyfyngu i'r meysydd sy'n hanfodol er mwyn cefnogi/adolygu prosesau busnes yn unig, lle nad oes modd aros i drosglwyddo i'r system newydd er mwyn cyflawni'r newid angenrheidiol. Bydd diweddariadau yn y cefndir yn parhau i gael eu cynnal er mwyn sicrhau fod y system yn parhau i fod yn ddiogel. Byddwch chi'n cael gwybod am y diweddariadau yma drwy eich ffrydiau cyfathrebu presennol yn unol â'r drefn arferol.